

Mwy am Hydro.Cymru
O ddichonoldeb i ddylunio ac adeiladu
Am Ddyfodol Gwell
Mae gan Hydro.Cymru gyfoeth o brofiad. O helpu cymunedau a thirfeddianwyr i ddefnyddio’r adnoddau naturiol sydd ar gael ar garreg ein drws yma yng Nghymru i gynhyrchu trydan a gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Rydym yn fusnes bach yng ngogledd Cymru sy’n cynnig gwasanaeth dibynadwy, cyfeillgar a phroffesiynol i’ch helpu i gyflawni eich nodau adnewyddadwy. Gyda’r gallu a’r arbenigedd i fynd â chi drwy’r daith gyfan o’r dechrau i’r diwedd, cysylltwch â Hydro.Cymru am gyngor ac arweiniad ar eich project.
Rydym yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
-
ymweliadau safle a dichonoldeb
-
cael caniatâd (caniatâd cynllunio, trwydded tynnu dŵr)
-
dylunio manwl
-
adeiladu a rheoli prosiectau
Cymerwch olwg ar rai o'r projectau rydym wedi bod yn rhan ohonynt.
Cynllun hydro cymunedol 100 KW
Bu Hydro.Cymru yn rhan o'r camau dichonoldeb hyd at reoli'r project. Cynnig arweiniad a chyngor i'r grŵp cymunedol dan sylw a goruchwylio'r gwaith adeiladu a wnaed gan gontractwyr lleol. Daeth y cynllun yn weithredol ym mis Mehefin 2017.
Cynllun hydro preifat 50 KW
Yn ymwneud o'r cychwyn cyntaf â chael yr holl ganiatâd angenrheidiol hyd at y gwaith adeiladu ei hun fel y prif gontractwr. Daeth y cynllun yn weithredol ym mis Ionawr 2022.
Cynllun hydro Fferm a Gwersyll Gwyliau
34 KW
Gweithio gyda thirfeddianwyr i ddylunio cynllun a fyddai'n gweithio iddyn nhw a'u busnes. Wedi cael pob caniatâd angenrheidiol a chwblhau'r adeiladu ar amser fel y prif gontractwr. Daeth y cynllun yn weithredol ym mis Tachwedd 2020.
Cynllun hydro 100 KW ar gyfer datblygwyr
Bu Hydro.Cymru yn rhan o'r camau cynnar o gael caniatâd a dylunio manwl. Roedd y datblygwr yn gontractwr sifil profiadol ac felly ymgymerodd â'r gwaith adeiladu. Roedd Hydro.Cymru yno i gefnogi’r prosiect yn ôl yr angen drwy gydol y cyfnod hwn. Ar ôl ei gwblhau, bu Hydro.Cymru wrthi eto, y tro hwn yn trefnu cytundebau i werthu’r trydan a chynyddu’r incwm i’r cwsmer.
Eisiau gwybod mwy?
