
Mwy amdanom ni
Mae Hydro.Cymru yn ymgynghoriaeth ynni hydro arbenigol yng ngogledd Cymru. Mae gennym gyfoeth o arbenigedd, gyda dros 9 mlynedd o brofiad mewn cynlluniau hydro – o ddichonoldeb i ddylunio ac adeiladu. Mae ein cleientiaid yn elwa o'n gwybodaeth gynhwysfawr o bob agwedd ar y daith, o'r dechrau i'r diwedd. Gyda’n cymorth ni, gallwch chi wneud y gorau o adnoddau ynni adnewyddadwy helaeth Cymru.
Ystyried ynni adnewyddadwy?

Ynni adnewyddadwy a chynaliadwy
Mae’r cynaliadwyedd a geir o ynni adnewyddadwy yn cyflwyno manteision nid yn unig yn amgylcheddol ond yn economaidd hefyd, gan y gellir osgoi cynnydd mewn prisiau ynni drwy’r opsiynau cynaliadwy sydd ar gael ar garreg ein drws. Dyma'r ateb i ddyfodol gwyrddach ac economi iachach i bawb!
Trydan hydro
Mae llawer o fanteision i ynni Hydro; o helpu i leihau llygredd aer a achosir gan fathau eraill o gynhyrchu pŵer i ddarparu ynni glân, adnewyddadwy am flynyddoedd lawer i ddod. Mae hydro yn rhan bwysig o’n brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd gan nad yw’n allyrru unrhyw nwyon tŷ gwydr a dim ond adnoddau adnewyddadwy fel dŵr afon sydd ei angen i weithredu, gan ein helpu i leihau ein hôl troed carbon yn sylweddol yn y dyfodol.
Sut mae ynni hydro yn gweithio?
Wedi gweithio ar gynlluniau sy'n gyfateb i
989KW
2967 MWh
o ynni glân wedi ei gynhyrchu
1043 t
tunnell fetrig o allyriadau carbon wedi eu hosgoi yn flynyddol

Mae hydro yn cynnig ffordd amgen o gynhyrchu trydan o’i gymharu â dulliau confensiynol, sy’n golygu y gall cartrefi a busnesau fel ei gilydd fwynhau’r manteision sy’n gysylltiedig ag arbenigedd Hydro.Cymru mewn cynhyrchu trydan dŵr.
Ein gwasanaeth
Mae Hydro.Cymru yn gwmni sydd wedi’i leoli yng ngogledd Cymru sydd ag arbenigedd mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy drwy gynlluniau hydro.
Projectau Cymunedol
Rydym wedi gweithio ar lawer o gynlluniau a phrosiectau cymunedol lleol. Os hoffech gyngor ar ble i ddechrau a chychwyn ar eich taith i gynhyrchu trydan o’n nentydd a’n hafonydd, cysylltwch â ni.
Cynlluniau preifat
Ydych chi'n berchennog tir gyda nant neu afon yn llifo trwy'ch eiddo? Efallai y bydd gennych gyfle i gael cynllun hydro ar garreg eich drws. Cysylltwch â ni am arweiniad a chefnogaeth ar sut i symud ymlaen.
Ymweliad safle
Ydych chi'n meddwl bod gennych chi gynllun posibl? Rhowch alwad i ni a byddwn yn fwy na pharod i drefnu ymweliad safle fel y gallwn werthuso'r potensial a gweld a oes modd symud ymlaen.